#                                                                                      

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil: Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Rhif y ddeiseb: P5-05-821

Teitl y ddeiseb: Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr

Testun y ddeiseb:

Mae cangen Castell-nedd Port Talbot o UNSAIN yn galw ar i Lywodraeth Cymru wrthdroi’r penderfyniad i dorri cyllid cymorth addysgol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS) a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr (TES).

Yn y bôn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi tynnu cyllid ar gyfer y grwpiau hyn yn ôl o dan y grant gwella addysg. Mae ymchwil yn dangos mai plant Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru, a diben y grant gwella addysg yw cefnogi eu dysgu a gwella cyrhaeddiad.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae canran o’r disgyblion yn ein hysgolion yn deithwyr ac yn grwpiau ethnig lleiafrifol sy’n dibynnu ar yr arian hwn; mae Margam a Llansawel yn enghreifftiau o hyn. Mae gan y cyngor dystiolaeth bod gweithwyr cymorth yn darparu gwasanaeth gwych o ran ymgysylltu â’r dysgwyr ‘anodd eu cyrraedd’ hyn. Rydym am i bob person ifanc allu cyrraedd ei botensial ac mae gweithwyr cymorth yn gallu hyrwyddo anghenion pob dysgwr, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed neu sydd o dan anfantais. Maent yn meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, ysgolion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd y gostyngiad yn eu cyllid yn niweidiol ac mae torri swyddi eisoes yn cael ei drafod â’r undebau llafur. Bydd angen talu unrhyw gostau diswyddo o gyllideb sydd eisoes dan bwysau.

Rydym yn annog i Lywodraeth Cymru ymgynghori ag UNSAIN ac awdurdodau lleol. Rhaid i Lywodraeth Cymru gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu i’r rhai sydd mewn angen.

Mae’r cyllid a gyhoeddwyd yn y setliad dros dro i gefnogi’r dysgwyr hyn sy’n agored i niwed yn ei gwneud hi’n berffaith amlwg nad oes dim trosglwyddiadau yn 2018/19 mewn cysylltiad ag addysg.  Honnwyd iddo gael ei dorri o’r Grant Gwella Addysg a’i fod wedi cyfrannu at y £170 miliwn ychwanegol a aeth i’r setliad ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol, ond nid yw hynny’n ddim amgen testun trafod.  Yn syml, effaith hyn oedd lleihau’r toriad cyffredinol i gyllid awdurdodau lleol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gweld toriad yn y Grant Cynnal Refeniw ond mae wedi honni bod y ddau doriad hyn yn golygu cynnydd yn y cyllid.  Mae wedi tynnu’r grant heb wneud yn iawn am hynny o dan y Grant Cynnal Refeniw.  Mae £5 miliwn ar gael i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd ar gyfer 2018/19, ond nid yw’n sôn y bydd hynny’n parhau i’r cynghorau hynny ar ôl y flwyddyn ariannol honno.  Mae’r torri cyllid hwn a’r diffyg gwybodaeth am ddarpariaeth yn y dyfodol yn golygu bod cyfarwyddwyr addysg mewn sefyllfa anodd.  Ni ellir cyflawni cyfle cyfartal i’r disgyblion hyn heb y cymorth wedi’i dargedu yr oedd y grant gwella addysg yn ei ariannu gynt.  Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru am ddyrannu cyllid i ysgolion yn uniongyrchol er mwyn eu helpu gyda’r pwysau cyllidol cyffredinol sydd arnynt, ond gellid bod wedi dyrannu rhywfaint o’r cyllid hwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal cymorth arbenigol yn y flwyddyn i ddod.  Os na fydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â chyllid grant penodol, yna bydd effaith anghymesur ar gydraddoldeb i Sipsiwn, Teithwyr a lleiafrifoedd ethnig. 

1.       Crynodeb o’r papur briffio hwn

§    Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu grantiau wedi’u neilltuo i awdurdodau lleol i gefnogi dysgwyr o gefndiroedd Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Bu hyn i gydnabod bod y grwpiau hyn o ddysgwyr mewn perygl o dangyflawni o gymharu â disgyblion eraill. [gweler adran 2 o’r papur briffio hwn]

§    Ar gyfer 2015-16 ymlaen, cyfunodd Llywodraeth Cymru ddau grant a oedd wedi’u neilltuo o’r blaen, sef y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Grant Addysg Plant Sipsiwn a Theithwyr, ynghyd â naw grant arall i un Grant Gwella Addysg (EIG). (Adran 3.1)

§    Tynnodd Llywodraeth Cymru y cyllid ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr o’r Grant Gwella Addysg o’r Gyllideb ar gyfer 2018-19, i ariannu dull gwarchod cyllidebau craidd ysgolion yn y Setliad Llywodraeth Leol. (Adran 3.2)

§    Yn dilyn hynny penderfynodd Llywodraeth Cymru ddarparu cyllid trosiannol o £8.7 miliwn i awdurdodau lleol: £5 miliwn i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd y mae’n amcangyfrif bod ganddynt y crynodiadau mwyaf o’r grwpiau hyn o ddysgwyr; £2.5 miliwn i’r tair dinas hyn yn ogystal ag i Wrecsam i arwain y newid i ddull rhanbarthol o gefnogi’r grwpiau hyn o ddysgwyr; ac £1.2 miliwn i’r 18 awdurdod arall (a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar). Cyhoeddwyd y cyllid trosiannol i ddechrau fel cyllid untro ar gyfer 2018-19 er bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn dweud, erbyn hyn, ei bod yn bwriadu ailadrodd hyn yn 2019-20. Yr arwydd yw, o 2020-21, y disgwylir i’r ddarpariaeth gael ei phrif ffrydio’n ddigonol ac i awdurdodau lleol gefnogi dysgwyr o grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr o’u cyllidebau eu hunain. (Adran 3.3).

§    Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn feirniadol o benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddad-neilltuo arian, yn arbennig gan fod y cam yn dilyn ymchwiliad polisi a gynhaliwyd gan y Pwyllgor ar ddiwedd 2016 a dechrau 2017 a oedd yn argymell y dylai cyllid a chymorth ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr gael ei dargedu a’i werthuso’n well. (Adran 4).

2.       Cyflawniad dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ystadegau bob mis Ionawr, sef y Cyflawniad academaidd yn ôl nodweddion disgyblion, sy’n dangos y cyfraddau cyrhaeddiad  o drothwy Lefel 2 (5 TGAU neu ragor ar raddau A*-C neu’r cyfwerth galwedigaethol), a’r trothwy Lefel 2 sy’n cynnwys Cymraeg, Saesneg a Mathemateg, wedi’u dadansoddi yn ôl cefndir ethnig. Mae’r data wedi’i gydgrynhoi dros dair blynedd fel bod nifer y disgyblion ym mhob grŵp cefndir ethnig yn fwy, ac i alluogi casgliadau mwy cadarn i gael eu nodi am gyrhaeddiad disgyblion ym mhob grŵp.

2.1        Disgyblion ethnig lleiafrifol

Mae cyfraddau cyrhaeddiad yn amrywio’n sylweddol ar draws gwahanol grwpiau ethnig. O’i gymharu â chyfradd cyrhaeddiad trothwy pob disgybl Lefel 2 o 80.4 y cant yn 2015-17, mae cyrhaeddiad disgyblion Gwyn heb fod yn Brydeinig (73.9 y cant), disgyblion o ethnigrwydd Cymysg Gwyn a Du Caribïaidd (74.6 y cant), disgyblion Du Caribïaidd (data wedi’i ddal yn ôl gan y byddai’n datgelu), a disgyblion Du di-Affricanaidd neu ddi-Garibïaidd (75.0 y cant), ar gyfartaledd, yn is.

Mae cyrhaeddiad grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill, fodd bynnag, yn enwedig disgyblion ethnig Cymysg Gwyn ac Asiaidd (87.3 y cant) a disgyblion Asiaidd neu Brydeinig Asiaidd (86.5 y cant) yn uwch ar gyfartaledd na’r holl ddisgyblion.

2.2        Disgyblion Sipsi / Sipsi Roma

Ar gyfer ei hystadegau, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r categori ‘Sipsiwn / Sipsiwn Roma’. Ni ddatgelir data ar gyfer dysgwyr sy’n Deithwyr oherwydd niferoedd annigonol o ddysgwyr a rheolau diogelu data. Gan ddysgwyr sy’n Sipsiwn / Sipsiwn Roma y mae’r cyrhaeddiad isaf o bob grŵp ethnig yng Nghymru.

§    Cyflawnodd 49.4 y cant o ddysgwyr Sipsiwn / Sipsiwn Roma drothwy Lefel 2, o’i gymharu â 80.4 y cant o’r holl ddisgyblion, yn ystod y cyfnod 2015-17.

§    Cyflawnodd 21.5 y cant o ddysgwyr Sipsiwn / Sipsiwn Roma y trothwy Lefel 2 gynhwysol, o’i gymharu â 59.0 y cant o’r holl ddisgyblion, yn ystod y cyfnod 2015-17.

3.       Polisi Llywodraeth Cymru

3.1        Cyfuno grantiau a neilltuwyd yn flaenorol i’r Grant Gwella Addysg

Ar ôl cyfuno 11 o’r hen grantiau a neilltuwyd[1] a’i ffurfio yn 2015-16, roedd y Grant Gwella Addysg werth £141 miliwn, sef £11.6 miliwn yn llai na swm ei rannau unigol yn 2014-15. Roedd hwn yn cynnwys £8 miliwn a drosglwyddwyd i’r Grant Gwella Addysg ar gyfer y grantiau Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn-Teithwyr, a oedd, ynddo’i hun £1.6 miliwn yn llai na’r £9.6 miliwn, yn y flwyddyn ddiwethaf lle cawsant eu neilltuo.

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu’r Grant Gwella Addysg i’r pedwar consortia rhanbarthol y disgwylir iddynt ddosbarthu eu dyraniadau o fewn eu rhanbarth i gefnogi’r holl flaenoriaethau a neilltuwyd yn y Grant Gwella Addysg. Nid yw Llywodraeth Cymru yn monitro faint o’r Grant sy’n cael ei wario ar unrhyw un o’i dibenion unigol, gan y dywedodd y byddai llai o feichiau gweinyddol yn un o brif fanteision cyfuno’r grantiau:

Y prif resymau dros gyflwyno’r trefniadau newydd oedd symleiddio systemau a chanolbwyntio mwy ar ddeilliannau yn hytrach na’r mewnbwn a’r allbwn, a lleihau cost gweinyddu a rheoli’r grant er mwyn sicrhau bod y cyllid yn cael ei wario’n bennaf ar gyflawni ac ar sicrhau gwell deilliannau i ddysgwyr.[2]

3.2        Dileu arian o’r Grant Gwella Addysg, a disgwyliad y caiff y gefnogaeth ei phrif ffrydio a’i diwallu o adnoddau presennol

Yn ystod y cylch gosod y Gyllideb 2018-19 yn hydref 2017 (PDF 1MB), cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £13.1 miliwn yn cael ei ‘dynnu’ o’r Grant Gwella Addysg fel rhan o’r dasg o ail-flaenoriaethu cyllid llywodraeth leol i ffwrdd o grantiau neilltuedig penodol i ariannu’r dasg o ddiogelu cyllidebau ysgolion rheng flaen yn y Setliad Llywodraeth Leol. Mae Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ers hynny wedi cadarnhau bod y £13.1 miliwn hwn yn cynnwys elfen o’r Grant Gwella Addysg a oedd i gefnogi dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr.[3]

Wrth wneud hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi dod â’r cyllid rhannol wedi’i neilltuo yn y Grant Gwella Addysg i ben ar gyfer cefnogi’r grwpiau hyn o ddisgyblion er mwyn cynnal y cyllid o fewn Setliad Llywodraeth Leol 2018-19 (y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) yn benodol ar gyfer cyllidebau craidd ysgolion ar lefelau 2017-18[4]. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn disgwyl i’r gefnogaeth i ddysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr gael ei phrif ffrydio a’i darparu o gyllidebau awdurdodau lleol. Fodd bynnag, mae hi wedi sicrhau bod cyllid trosiannol ar gael (gweler adran 3.3).

3.3        Ariannu trosiannol nes y caiff y ddarpariaeth ei phrif ffrydio

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi dyrannu £8.7 miliwn o gyllid trosiannol yn 2018-19 a dywedodd ei bod yn bwriadu gwneud yr un peth yn 2019-20. Mae’r newyddion am yr arian hwn wedi’i gyhoeddi ers gosod cyllideb 2018-19 ac mae’n dilyn sylwadau gan awdurdodau lleol a sylwadau yn sgîl gwaith craffu ar y penderfyniad yn y Cynulliad (gweler adran 4.2). Dywed Kirsty Williams AC ei fod yn rhan o’r gydnabyddiaeth bod trosglwyddo’r gwasanaeth i un sy’n ddarpariaeth graidd a chynaliadwy ar gyfer yr hirdymor yn cymryd amser.

Mae’r arian gwerth £8.7 miliwn ar gyfer 2018-19 wedi’i rannu fel a ganlyn: 

§    £5 miliwn i awdurdodau lleol Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd y mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif sydd â’r crynodiadau mwyaf o ddysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr;

§    £2.5 miliwn yn 2018-19 i’r tri awdurdod hyn yn ogystal ag i Wrecsam i arwain y newid i ddull rhanbarthol o gefnogi’r grwpiau hyn o ddysgwyr;

§    £1.2 miliwn i’r 18 awdurdod lleol sy’n weddill.

4.       Y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu

4.1        Ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 2016-2017

Mewn ymchwiliad polisi ar ddiwedd 2016 / dechrau 2017, fe wnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (CYPE) feirniadu diffyg monitro a gwerthuso’r defnydd o’r Grant Gwella Addysg a’i effaith, yn benodol mewn perthynas â dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PDF 402KB), dywedodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu ‘fframwaith canlyniadau cryfach’ i fynd i’r afael â hyn, gan ychwanegu yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mai 2017:

Un o’r argymhellion rwy’n cytuno’n arbennig o gryf ag ef yw nad yw’r fframwaith perfformiad addysg presennol yn ddigon cadarn. Nid ydyw, yn syml, ac nid oedd modd cuddio rhag hynny yn ystod sesiynau’r pwyllgor. (...)

Mae [.....yr adroddiad gwerthfawr hwn]  wedi cryfhau fy ngallu i ysgogi pobl i weithredu yn yr adran, yn enwedig mewn perthynas â monitro.

O ran y model ariannu ar gyfer cefnogi dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ni chlywodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg dystiolaeth ddiffiniol bod cyfuno’r grantiau i’r Grant Gwella Addysg wedi cael effaith andwyol ar y flaenoriaeth a roddwyd i’r maes hwn nac ar ddeilliannau addysgol, ond daeth i’r casgliad na ellid gwybod hyn y naill ffordd na’r llall. Mae hyn oherwydd y diffyg gwaith monitro a gwerthuso a gyflawnwyd.

Felly, daeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i’r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau ei ffocws, a thargedu cyllid, yn benodol, ar ganlyniadau addysgol y grwpiau hyn o ddysgwyr. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru wella’r trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer y Grant Gwella Addysg, a pharhau i adolygu’r model cyllido. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, ond ers hynny mae wedi cael rhagor o arian heb ei neilltuo ar gyfer dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr drwy ei symud o’r Grant Gwella Addysg (gweler adran 3.1). Mae’r Pwyllgor wedi mynegi ei siom o glywed am y penderfyniad hwn (gweler adran 4.2).

Mae’r ddeiseb yn galw am gynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb o ddileu’r arian. Yn ei adroddiad ar ei ymchwiliad  (PDF 739KB) ym mis Chwefror 2017, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal ‘asesiad effaith wedi’i ddiweddaru’n drylwyr’ o’r penderfyniad i gyfuno’r grantiau yn 2015-16. Gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, gan nad oedd yn credu bod diffygion wrth ymgymryd â’r asesiadau o effaith ar gydraddoldeb a arweiniodd at effaith sylweddol ar wasanaethau ac sy’n galw’n gyfiawn am i swyddogion ail-edrych ar yr asesiadau gwreiddiol.

4.2        Dilyniant gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Yn ei adroddiad ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 (PDF 1.0MB), mynegodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei siom am y penderfyniad i ddad-neilltuo ymhellach ragor o gyllid ar gyfer dysgwyr o grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr:

Byddem yn siomedig pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu dad-neilltuo cyllid i gefnogi dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig ymhellach pan ddangosodd ein hymchwiliad polisi yn gynharach eleni fod angen monitro a gwerthuso llawer mwy o ran sut y mae’r arian yn y Grant Gwella Addysg yn effeithio ar y grwpiau hyn o ddysgwyr. (...)

Ar sail y dystiolaeth a ddarperir yn ein Grant Gwella Addysg: Adroddiad ar Blant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a Phlant Lleiafrifoedd Ethnig (Chwefror 2017), rydym yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i gadw arian i gefnogi dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig fel rhan o’r Grant Gwella Addysg.

Gwrthododd Ysgrifennydd y Cabinet (PDF 1MB) yr argymhelliad hwn, ond dywedodd y byddai’n ysgrifennu at y Pwyllgor eto i ddarparu rhagor o wybodaeth am drefniadau ar gyfer 2018-19. Yn y llythyr hwn, a gyhoeddwyd ar 28 Chwefror 2018 (PDF 135KB), dywedodd Kirsty Williams AC:

Ers mwy na degawd, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid grant ychwanegol sydd wedi’i dargedu i Lywodraeth Leol, er mwyn cefnogi ein dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Dros y cyfnod hwnnw, mae Awdurdodau Lleol wedi rhoi trefniadau ar brawf, ac rwy’n llwyr gydnabod yr arbenigedd a’r profiad yn ein hysgolion ac yng ngwasanaethau’r Awdurdodau Lleol.  

Yn ail, yr hyn sy’n glir imi yw na ddylem ganiatáu i’r math hwn o gymorth gael ei ystyried i fod yn gymorth ychwanegol. Nid yw hynny’n gynaliadwy yn y tymor hir, a dylem gael disgwyliadau gwell. (...)

Mae Llywodraeth Leol wedi galw ers amser ar beidio â neilltuo cyllid grant, ac am gael trefniadau syml, a mwy o hyblygrwydd i ddarparu gwasanaethau a rheoli’r pwysau sydd arnynt. Gwasanaethau Awdurdodau Lleol yw’r rhain, a Setliad Llywodraeth Leol yw’r ffordd fwyaf cynaliadwy o hyd i ariannu’r ddarpariaeth graidd. 

Ac yn olaf, wrth flaenoriaethu cyllid i Lywodraeth Leol ar gyfer ysgolion, mae holl Ysgrifenyddion y Cabinet a’r holl Weinidogion wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ac ystyried amrediad o wasanaethau a’r ffordd y maent yn cael eu hariannu.

Hefyd, rhoddodd llythyr Ysgrifennydd y Cabinet fanylion am yr arian trosiannol yn 2018-19 i leddfu pwysau yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd, ac i ymgorffori’r gwaith o brif ffrydio cefnogaeth i ddysgwyr Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn rhanbarthol.

Ysgrifennodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Ysgrifennydd y Cabinet ar 14 Mawrth 2018 (PDF 187KB). Amlygodd y llythyr hwn bryderon y Pwyllgor na fyddai’r fframwaith deilliannau mwy cadarn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Grant Gwella Addysg yn cael unrhyw fanteision o ran dysgwyr o grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, gan eu bod wedi’u cymryd allan o gwmpas a chylch gorchwyl y Grant hwn. Ailadroddodd y Pwyllgor hefyd ei siom â’r penderfyniad i gael gwared ar yr arian o’r Grant Gwella Addysg a’i gred ei fod yn mynd yn groes i’r cyfeiriad a nodir yn eich ymateb i’n hymchwiliad:

Pan argymhellodd y Pwyllgor y dylech ystyried a yw cyflwyno’r Grant Gwella Addysg wedi gwella canlyniadau i’r grwpiau hyn o ddysgwyr a pharhau i gadw llygad ar y model cyllido yn ystod y Cynulliad hwn, nid oeddem yn rhagweld flwyddyn yn ddiweddarach y byddai’r cyllid hwn yn cael ei ddadneilltuo ymhellach ac y byddai disgwyl i awdurdodau lleol ei ariannu o’r Grant Cynnal Refeniw.

Gofynnodd y Pwyllgor Plant hefyd am eglurhad ynghylch yr hyn oedd yn digwydd i’r £13.1 miliwn a ddilëwyd o’r Grant Gwella Addysg, a’r mecanwaith ar gyfer ei symud i’r Grant Cynnal Refeniw gan na chafodd ei drosglwyddo’n ffurfiol fel rhan o’r Setliad Llywodraeth Leol. Cyfeiriodd hyn at bryderon llywodraeth leol ynglŷn â’r disgwyliad ei fod yn parhau i ddarparu gwasanaethau addysg Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn / Teithwyr heb unrhyw drosglwyddiad cymesur i’r Grant Cynnal Refeniw.[5] Ysgrifennodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (PDF 400KB) i gefnogi safbwynt y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet i’r Pwyllgor ar 17 Ebrill 2018 (PDF 354KB). Ategodd Kirsty Williams drwy ddweud:

Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am gyllid ar gyfer ysgolion yn unol â’r gyfraith ac mae’n ddyletswydd arnynt i sicrhau bod darpariaeth addysg briodol ar gael i bob dysgwr. Dyna pam, ar ôl 10 mlynedd o ddarparu arian grant ychwanegol i roi systemau a dulliau ar brawf, bod cefnogaeth i ddysgwyr o leiafrifoedd ethnig, a dysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr bellach yn ddarpariaeth graidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd fod y £7.5 miliwn trosiannol[6] yn ‘ychwanegol’ at y £13.1 miliwn sydd wedi’i dynnu oddi ar y Grant Gwella Addysg a’i fod ar gael i awdurdodau lleol drwy’r RSG. Gofynnodd y Pwyllgor Plant am ragor o eglurhad mewn llythyr dyddiedig 14 Mai 2018 (PDF 467KB) yn gofyn sut y gall fod yn ychwanegol pan na fydd y £13.1 miliwn ar gyfer Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn bodoli mwyach. Mae’n bosibl bod Ysgrifennydd y Cabinet yn golygu bod y £7.5 miliwn ar wahān i’r £13.1 miliwn a gafodd ei dynnu oddi ar y Grant Gwella Addysg a’i fod wedi cyfrannu at yr arian y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddefnyddio i wrthbwyso gostyngiad, fel arall, i’r cyllid yn y Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer ysgolion.

Fodd bynnag, mae’r £61.8 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gymryd o gyllidebau fel yr elfen Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr o’r Grant Gwella Addysg wedi cynnal bloc gwasanaeth y setliad ar lefelau presennol yn unig (cynnydd o £1.5 miliwn i gyfanswm o £1.5 biliwn).[7]  Dyna pam y mae’r deisebwyr yn awgrymu bod y defnydd o’r arian ar gyfer cyllidebau craidd ysgolion yn academaidd, gan mai yr effaith gyffredinol oedd torri ar y cyllid i lywodraeth leol.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 



[1] Yn ychwanegol at y Grant Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Grant Addysg Plant Sipsiwn a Theithwyr y grantiau eraill a gyfunwyd oedd Grant Refeniw y Cyfnod Sylfaen; Grant Effeithiolrwydd Ysgolion; Llwybrau Dysgu 14-19; Grant y Gymraeg mewn Addysg; Grant Ymarferwyr Arweiniol ac Arloesol; Grant Cymorth Profion Darllen a Rhifedd; Arian ychwanegol ar gyfer ysgolion Bandiau 4 a 5; y Grant Sefydlu Athrawon; a’r Grant Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch.

[2]Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Pwyllgor Plant  (PDF 749KB), 11 Tachwedd 2016

[3] Llythyrau gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg at y Pwyllgor ar 28 Chwefror 2018  (PDF 135KB) a 17 Ebrill 2018 (PDF 354KB)

[4] Arweiniodd hyn at gynnydd o £1.5 miliwn yn y bloc gwasanaeth ysgolion o fewn yr AEF o £1.554 biliwn yn 2017-18 i £1.556 biliwn (ffigurau crwn) yn 2018-19. Gweler llythyr gan Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 13 Tachwedd 2017

[5] Gweler er enghraifft, newyddion BBC Cymru, ‘Education cuts impossible to defend, says Council Leader’ , 22 Ionawr 2018

[6] Noder bod hyn bellach yn £8.7 miliwn yn dilyn cyhoeddi y bydd £1.2 miliwn ar gyfer y 18 o awdurdodau sy’n weddill, fel y nodwyd yn llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 25 Mai 2018a’r llythyr at y Pwyllgor hwn ar 12 Mehefin 2018.

[7] Llythyr oddi wrth Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 13 Tachwedd 2017